Rydym wedi casglu rhai nodiadau byr isod am y safon. Y diben yw amlygu'r buddion, creu gwell dealltwriaeth o'r safon, a dangos y broses y gallech ei chymryd.
Nod terfynol y Safon yw bod holl weithgaredd y sefydliad, ynghyd â chyflawni'r nod cynradd, yn datblygu cadernid dynol ryw a'r amgylchedd naturiol yn y dyfodol. Mae'r protocol yn eu helpu i fod yn gyfannol a chymryd y sefydliad cyfan gyda hwy. Bydd deall gofynion y Safon Un Blaned yn helpu:
- uwch-arweinwyr i lunio cyfeiriad strategol
- arweinwyr a rheolwyr i roi newid ar waith
- staff i newid y diwylliant corfforaethol
- cwsmeriaid, cyflenwyr a chontractwyr gwasanaethau i reoli cylched oes cynnyrch a gwasanaethau, a
- chyfrannu at weithio mewn partneriaeth.
Mae'r Safon Un Blaned yn cefnogi gwelliant parhaus, gyda chylch gwella Cynllunio> Gwneud> Gwirio> Gweithredu rhinweddol.
Gall sefydliadau osod eu nodau eu hunain, gyda cherrig milltir, dros gyfnod penodol o amser. Bydd y nodau gall sefydliadau eu gosod yn cynnwys gwell effeithlonrwydd, lleihau'r defnydd o ddeunyddiau crai, taclo ôl troed ecolegol cylch oes, lleihau'r defnydd o ynni a llygredd, a gwrthdroi'r difrod i natur. Byddant yn symud y tu hwnt i garbon sero net ac i'r economi gylchol. Gellir gosod nodau cymdeithasol, cymunedol, iechyd, cyfiawnder a lles hefyd. Chi sydd i ddewis. Fely hynny gellir casglu gwerth cymdeithasol ac ecolegol.
Ceir tair lefel i'r Safon Un Blaned:
- Efydd (ymrwymiad),
- Arian (achrediad),
- Aur (ardystiad).
Mae'r Safon yn gwarantu perfformiad sy'n gyson â deddfwriaeth amgylcheddol a chymdeithasol arall, gan gynnwys dangosyddion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a'r Nod Datblygu Cynaliadwy. Mae'n ategu ac yn cyd-fynd â safonau eraill, megis BCorp.
Rydym yn cynnig offeryn hunanasesu, a thîm o aseswyr sy'n gallu cynnig cyngor ac achrediad ar y safle ac o bell. Wedi i chi dderbyn eich achrediad byddwch yn derbyn y logo ar gyfer y lefel cyflawniad berthnasol, a fydd yn eich galluogi i roi cyhoeddusrwydd i’ch cyflawniad.
Rydym yn cynnig pob math o gefnogaeth, os oes arnoch ei hangen, ynghylch polisïau a strategaethau, camau gweithredu a metrigau, i'ch helpu i deilwra'r Safon i'ch anghenion penodol chi.