- Datblygwch eich polisi gan ddefnyddio egwyddorion y Safon, yn seiliedig ar y math o weithgareddau a'r math o sefydliad rydych.
- Defnyddiwch ein llyfrgell o ddatrysiadau profedig ac adnoddau ar gyfer syniadau, ac i ddewis targedau, llinell amser a dangosyddion perfformiad allweddol sy'n briodol i chi.
- Targedwch effeithiau Cwmpas 1 a 2 (eich rhai uniongyrchol eich hun) yn gyntaf, yna Cwmpas 3 (y rhai yn eich cadwyni cyflenwi a rhai eich cleientiaid a'ch cwsmeriaid y gallwch ddylanwadu arnynt).
- Lluniwch bolisïau, strategaethau, llwybrau a thargedau gan ddefnyddio'r Pum Dull o Weithio. Dewch i geisio cymorth gennym yn y Ganolfan Un Blaned os oes angen.
- Defnyddiwch eich Dangosyddion Perfformiad Allweddol i gynnal arolwg gwerthuso a meincnodi gwaelodlin i ganfod eich effaith amgylcheddol gyfredol (ôl troed ecolegol).
- Lluniwch lwybr llwyddo i leihau eich hôl troed ecolegol i 'un blaned' dros gyfnod o'ch dewis.
- Ategwch hyn gyda strategaethau ar gyfer cyflawni targedau cerrig milltir tymor byr, canolig a hir ar gyfer gwahanol bynciau megis ynni, bwyd, rheoli adnoddau, cludiant, yr amgylchedd naturiol ac adeiladau.
- Rhowch dargedau interim blynyddol ar gyfer pob cyfres o weithrediadau.
- Dynodwch gamau gweithredu gweithrediadol i unigolion ac adrannau yn nisgrifiadau eu swyddi. Rhowch hyfforddiant lle y bo'n angenrheidiol.
- Dewch o hyd i elfennau hawdd eu cyflawni a gweithredu arnynt.
- Rhowch systemau monitro yn eu lle ar gyfer y dangosyddion perfformiad allweddol. Rhoi'r cynnydd ar gael yn gyhoeddus o fewn y sefydliad.